2014 Rhif 375 (Cy. 43)

 CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cyfrannu at weithredu, o ran Cymru, Erthygl 30 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy'n ymwneud â sylweddau peryglus (OJ Rhif L 197, 24.7.2012, tt.1-37 (“Cyfarwyddeb Seveso III”).

Mae Erthygl 30 o Gyfarwyddeb Seveso III yn ymdrin ag ansicrwydd mewn perthynas â dosbarthiad olewon tanwydd trwm drwy ychwanegu olewon tanwydd trwm at y tabl yn Rhan 2 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/82 (OJ Rhif L 10, 14.1.1997, t. 13) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2003/105 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 345, 31.12.2003, t. 97) (“Cyfarwyddeb Seveso II”) o dan y pennawd “Cynhyrchion Petrolewm” sydd â maintioli cymwys o 2,500 o dunelli ar gyfer colofn 2 a 25,000 o dunelli ar gyfer colofn 3.

Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gweithredu Cyfarwyddeb Seveso II mewn perthynas â chynllunio defnydd tir.

Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy ychwanegu olewon tanwydd trwm at y rhestr o sylweddau a enwir yn Rhan A o Atodlen 1 i Reoliadau 1992. Effaith hyn yw bod sefydliad lle y mae olewon tanwydd trwm yn bresennol mewn maintioli sydd yn cyfateb i'r maintioli sydd yn cael ei reoli (2,500 o dunelli), neu sy'n fwy na hynny, yn dod yn ddarostyngedig i Reoliadau 1992.

Mae Rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol er mwyn sicrhau nad effeithir ar gydsyniadau presennol ynglŷn â sylweddau peryglus a materion penodedig eraill gan y diwygio.

Gweithredir gweddill Erthygl 30 o Gyfarwyddeb Seveso III o ran Cymru gan Reoliadau Olew Tanwydd Trwm (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/162) sy'n diwygio Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999 (O.S. 1999/743) (“Rheoliadau 1999”) drwy ychwanegu olewon tanwydd trwm at y rhestr o sylweddau a enwir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 1999.

Mae asesiad effaith wedi ei lunio mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.cymru.gov.uk

 


2014 Rhif 375 (Cy. 43)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed                             20 Chwefror 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       21 Chwefror 2014

Yn dod i rym                        14 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5 a 40 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990([1]).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 14 Mawrth 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992([2]); a

(b)     ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.

Diwygio Rheoliadau 1992

2. Yn Rhan A o Atodlen 1 i Reoliadau 1992, yng ngholofn 1 y tabl o dan gofnod 36 mewn perthynas â chynhyrchion petrolewm, ar ôl “(c) gas oils (including diesel fuels, home heating oils and gas oil blending streams)”, mewnosoder —

(d) heavy fuel oils”.

Darpariaeth drosiannol

3.(1)(1) Mae Rheoliadau 1992 yn parhau i gael effaith fel yr oeddent yn union cyn y dyddiad perthnasol mewn perthynas ag—

(a)     unrhyw gydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd neu y bernir iddo gael ei roi cyn y diwrnod perthnasol;

(b)     unrhyw gais am gydsyniad sylweddau peryglus a wnaed cyn y dyddiad perthnasol;

(c)     unrhyw gydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd o ran cais o'r math a grybwyllir yn is-baragraff (3)(b);

(d)     unrhyw apêl o dan adran 21 o Ddeddf 1990 y mae cais o'r math a grybwyllir yn is-baragraff (3)(b) yn berthnasol iddi;

(e)     unrhyw achos mewn cysylltiad â throsedd o dan adran 23 o Ddeddf 1990 a gyflawnwyd cyn y dyddiad perthnasol;

(f)      unrhyw hysbysiad am dorri’r gyfraith ynghylch sylweddau peryglus a ddyroddwyd gan awdurdod sylweddau peryglus cyn y dyddiad perthnasol;

(g)     unrhyw achos a gychwynnwyd neu unrhyw beth a wnaed yng nghyswllt unrhyw fater a grybwyllir yn is-baragraffau 3(a) i 3(f) cyn y dyddiad perthnasol.

(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y dyddiad perthnasol” yw'r dyddiad y daw'r rheoliad hwn i rym.

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

20 Chwefror 2014



([1])           1990 p.10; diwygiwyd adran 21 gan adran 197 a pharagraff 6 o Atodlen 11 i Ddeddf Cynllunio 2008 ac adran 162, Atodlen 16, Rhan VII o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990; diwygiwyd adran 23 gan adran 25 a pharagraff 10(a) a (b) o Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Mae'r pwerau o dan adrannau 5 a 40 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Fe'u trosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32) yn rhinwedd y ffaith eu bod yn “swyddogaethau perthnasol y Cynulliad” fel y'u diffinnir ym mharagraff 30(2).

 

([2])           O.S. 1992/656. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1999/981 ac O.S. 2010/450 (Cy.48).